4. Ond yr oedd gair y brenin yn drech na Joab, ac fe aeth Joab allan a thramwyo trwy holl Israel, a dychwelodd i Jerwsalem. Yna rhoddodd swm y cyfrifiad o'r bobl i Ddafydd:
5. yr oedd yn Israel filiwn a chan mil o wŷr a fedrai drin y cleddyf, ac yn Jwda bedwar cant saith deg o filoedd.
6. Ond nid oedd Joab wedi cynnwys Lefi a Benjamin yn eu mysg am ei fod yn ffieiddio gorchymyn y brenin.
7. Yr oedd hyn yn ddrwg yng ngolwg Duw, ac felly trawodd Israel.
8. A dywedodd Dafydd wrth Dduw, “Pechais yn fawr trwy wneud hyn; am hynny maddau i'th was, oherwydd bûm yn ffôl iawn.”
9. Daeth gair yr ARGLWYDD at Gad, gweledydd Dafydd, gan ddweud,
10. “Dos a dywed wrth Ddafydd, ‘Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD: Yr wyf yn cynnig tri pheth iti; dewis di un ohonynt, ac fe'i gwnaf iti.’ ”
11. Daeth Gad at Ddafydd ac meddai wrtho, “Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD:
12. Dewis naill ai tair blynedd o newyn, neu dri mis o ffoi o flaen dy wrthwynebwyr a chleddyf dy elynion yn dy oddiweddyd, neu dridiau o haint yn y wlad, sef cleddyf yr ARGLWYDD, ac angel yr ARGLWYDD yn dinistrio trwy holl derfynau Israel. Ystyria pa ateb a roddaf i'r un a'm hanfonodd.”
13. Dywedodd Dafydd wrth Gad, “Y mae'n gyfyng iawn arnaf, ond bydded imi syrthio i law'r ARGLWYDD, am fod ei drugareddau'n aml, yn hytrach nag imi syrthio i law dynion.”
14. Felly anfonodd yr ARGLWYDD haint ar Israel, a bu farw deng mil a thrigain o'r bobl.
15. Anfonodd Duw hefyd angel i Jerwsalem i'w dinistrio, ond fel yr oedd ar fin ei dinistrio edrychodd yr ARGLWYDD ac edifarhaodd am y niwed, a dywedodd wrth yr angel oedd yn gyfrifol am y dinistr, “Digon bellach! Atal dy law.” Yr oedd angel yr ARGLWYDD yn ymyl llawr dyrnu Ornan y Jebusiad.