Hen Destament

Testament Newydd

1 Cronicl 21:18-26 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

18. Yna dywedodd angel yr ARGLWYDD wrth Gad am orchymyn i Ddafydd fynd i fyny a chodi allor i'r ARGLWYDD ar lawr dyrnu Ornan y Jebusiad.

19. Felly fe aeth Dafydd, ar air Gad, fel y gorchmynnodd yn enw'r ARGLWYDD.

20. Yr oedd Ornan yn dyrnu gwenith; trodd a gweld yr angel, ac aeth ei bedwar mab oedd gydag ef i ymguddio.

21. Daeth Dafydd at Ornan, a phan welodd Ornan ef aeth allan o'r llawr dyrnu ac ymgrymu iddo hyd lawr.

22. Dywedodd Dafydd wrtho, “Rho i mi'r llawr dyrnu, er mwyn i mi godi allor yno i'r ARGLWYDD; rho ef i mi am ei lawn bris, er mwyn atal y pla rhag y bobl.”

23. Meddai Ornan wrth Ddafydd, “Cymered f'arglwydd frenin ef a gwneud yr hyn a fyn; edrych, yr wyf yn rhoi'r ychen ar gyfer y poethoffrymau, a'r offer dyrnu yn danwydd a'r gwenith yn fwydoffrwm. Fe gei'r cwbl gennyf.”

24. Ond dywedodd y brenin wrth Ornan, “Na, rhaid i mi ei brynu am ei lawn werth. Ni chymeraf yr hyn sydd eiddot ti ac aberthu i'r ARGLWYDD boethoffrwm di-gost.”

25. Felly talodd Dafydd chwe chan sicl o aur wrth eu pwysau i Ornan am y lle;

26. a chododd yno allor i'r ARGLWYDD, ac aberthu poethoffrymau a heddoffrymau. Galwodd ar yr ARGLWYDD, ac atebodd yntau ef trwy anfon tân o'r nefoedd ar allor y poethoffrwm.

Darllenwch bennod gyflawn 1 Cronicl 21