10. “Dos a dywed wrth Ddafydd, ‘Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD: Yr wyf yn cynnig tri pheth iti; dewis di un ohonynt, ac fe'i gwnaf iti.’ ”
11. Daeth Gad at Ddafydd ac meddai wrtho, “Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD:
12. Dewis naill ai tair blynedd o newyn, neu dri mis o ffoi o flaen dy wrthwynebwyr a chleddyf dy elynion yn dy oddiweddyd, neu dridiau o haint yn y wlad, sef cleddyf yr ARGLWYDD, ac angel yr ARGLWYDD yn dinistrio trwy holl derfynau Israel. Ystyria pa ateb a roddaf i'r un a'm hanfonodd.”
13. Dywedodd Dafydd wrth Gad, “Y mae'n gyfyng iawn arnaf, ond bydded imi syrthio i law'r ARGLWYDD, am fod ei drugareddau'n aml, yn hytrach nag imi syrthio i law dynion.”
14. Felly anfonodd yr ARGLWYDD haint ar Israel, a bu farw deng mil a thrigain o'r bobl.
15. Anfonodd Duw hefyd angel i Jerwsalem i'w dinistrio, ond fel yr oedd ar fin ei dinistrio edrychodd yr ARGLWYDD ac edifarhaodd am y niwed, a dywedodd wrth yr angel oedd yn gyfrifol am y dinistr, “Digon bellach! Atal dy law.” Yr oedd angel yr ARGLWYDD yn ymyl llawr dyrnu Ornan y Jebusiad.