Hen Destament

Testament Newydd

1 Cronicl 21:1-12 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

1. Cododd Satan yn erbyn Israel ac annog Dafydd i gyfrif yr Israeliaid.

2. Felly dywedodd Dafydd wrth Joab a swyddogion y fyddin, “Ewch a chyfrifwch Israel o Beerseba i Dan; yna dychwelwch ataf er mwyn i mi wybod eu nifer.”

3. Dywedodd Joab, “Bydded i'r ARGLWYDD luosogi ei bobl ganwaith yr hyn ydynt. F'arglwydd frenin, onid gweision f'arglwydd ydynt i gyd? Pam y mae f'arglwydd yn gwneud ymholiad fel hyn? Pam y dylai camwedd ddod ar Israel?”

4. Ond yr oedd gair y brenin yn drech na Joab, ac fe aeth Joab allan a thramwyo trwy holl Israel, a dychwelodd i Jerwsalem. Yna rhoddodd swm y cyfrifiad o'r bobl i Ddafydd:

5. yr oedd yn Israel filiwn a chan mil o wŷr a fedrai drin y cleddyf, ac yn Jwda bedwar cant saith deg o filoedd.

6. Ond nid oedd Joab wedi cynnwys Lefi a Benjamin yn eu mysg am ei fod yn ffieiddio gorchymyn y brenin.

7. Yr oedd hyn yn ddrwg yng ngolwg Duw, ac felly trawodd Israel.

8. A dywedodd Dafydd wrth Dduw, “Pechais yn fawr trwy wneud hyn; am hynny maddau i'th was, oherwydd bûm yn ffôl iawn.”

9. Daeth gair yr ARGLWYDD at Gad, gweledydd Dafydd, gan ddweud,

10. “Dos a dywed wrth Ddafydd, ‘Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD: Yr wyf yn cynnig tri pheth iti; dewis di un ohonynt, ac fe'i gwnaf iti.’ ”

11. Daeth Gad at Ddafydd ac meddai wrtho, “Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD:

12. Dewis naill ai tair blynedd o newyn, neu dri mis o ffoi o flaen dy wrthwynebwyr a chleddyf dy elynion yn dy oddiweddyd, neu dridiau o haint yn y wlad, sef cleddyf yr ARGLWYDD, ac angel yr ARGLWYDD yn dinistrio trwy holl derfynau Israel. Ystyria pa ateb a roddaf i'r un a'm hanfonodd.”

Darllenwch bennod gyflawn 1 Cronicl 21