Hen Destament

Testament Newydd

1 Cronicl 20:4-8 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

4. Ar ôl hynny bu rhyfel yn erbyn y Philistiaid yn Geser. Y tro hwnnw lladdwyd Sippai, un o dylwyth y Reffaim, gan Sibbechai yr Husathiad.

5. A bu rhyfel eilwaith yn erbyn y Philistiaid, a lladdwyd Lahmi, brawd Goliath o Gath, gan Elhanan fab Jair; yr oedd coes gwaywffon Goliath fel carfan gwehydd.

6. Pan fu rhyfel eto yn Gath, yr oedd yno gawr o ddyn gyda chwech o fysedd ar bob llaw a throed, pedwar ar hugain i gyd; ac yr oedd yntau yn hanu o'r Reffaim.

7. Bwriodd sen ar Israel, ond lladdwyd ef gan Jonathan fab Simei, brawd Dafydd.

8. Yr oedd y rhain yn hanu o'r Reffaim yn Gath, a chwympasant trwy law Dafydd a'i weision.

Darllenwch bennod gyflawn 1 Cronicl 20