Hen Destament

Testament Newydd

1 Cronicl 2:5-17 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

5. Meibion Phares: Hesron a Hamul.

6. Meibion Sera: Simri, Ethan, Heman, Calcol, a Dara, pump i gyd.

7. Mab Carmi: Achar, yr un a flinodd Israel trwy dwyllo gyda'r diofryd.

8. Mab Ethan: Asareia.

9. Meibion Hesron: ganwyd iddo Jerahmeel, Ram, Celubai.

10. Ram oedd tad Amminadab; Amminadab oedd tad Nahson, pennaeth tylwyth Jwda;

11. Nahson oedd tad Salma; Salma oedd tad Boas;

12. Boas oedd tad Obed; ac Obed oedd tad Jesse;

13. Jesse oedd tad Eliab, ei gyntafanedig, Abinadab yn ail, Simma yn drydydd,

14. Nethaneel yn bedwerydd, Radai yn bumed,

15. Osem yn chweched, Dafydd yn seithfed,

16. a'u chwiorydd hwy, Serfia ac Abigail. Meibion Serfia: Abisai, Joab, Asahel, tri.

17. Abigail oedd mam Amasa, a'i dad ef oedd Jether yr Ismaeliad.

Darllenwch bennod gyflawn 1 Cronicl 2