Hen Destament

Testament Newydd

1 Cronicl 2:31-42 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

31. Mab Appaim: Isi. Mab Isi: Sesan. Mab Sesan: Alai.

32. Meibion Jada, brawd Sammai: Jether a Jonathan; a bu farw Jether yn ddi-blant.

33. Meibion Jonathan: Peleth a Sasa. Y rhain oedd meibion Jerahmeel.

34. Nid oedd gan Sesan feibion, dim ond merched. Yr oedd ganddo was o Eifftiad o'r enw Jarha,

35. ac fe roddodd Sesan ei ferch yn wraig iddo. Hi oedd mam Attai.

36. Attai oedd tad Nathan, a Nathan oedd tad Sabad.

37. Sabad oedd tad Efflal, Efflal oedd tad Obed,

38. Obed oedd tad Jehu, Jehu oedd tad Asareia,

39. Asareia oedd tad Heles, Heles oedd tad Eleasa,

40. Eleasa oedd tad Sisamai, Sisamai oedd tad Salum,

41. Salum oedd tad Jecameia, Jecameia oedd tad Elisama.

42. Meibion Caleb brawd Jerahmeel: Mesa, ei gyntafanedig, tad Siff, a'i fab Maresa, tad Hebron.

Darllenwch bennod gyflawn 1 Cronicl 2