Hen Destament

Testament Newydd

1 Cronicl 2:24-31 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

24. Ar ôl marw Hesron, priododd Caleb Effrata, gwraig ei dad Hesron, a hi oedd mam ei fab Ashur, tad Tecoa.

25. Meibion Jerahmeel, cyntafanedig Hesron: Ram yr hynaf, Buna, Oren, Osem, Aheia.

26. Yr oedd gan Jerahmeel wraig arall o'r enw Atara; hi oedd mam Onam.

27. Meibion Ram, cyntafanedig Jerahmeel: Maas, Jamin, Ecer.

28. Meibion Onam: Sammai a Jada. Meibion Sammai: Nadab ac Abisur.

29. Enw gwraig Abisur oedd Abihail; hi oedd mam Aban a Molid.

30. Meibion Nadab: Seled ac Appaim; a bu farw Seled yn ddi-blant.

31. Mab Appaim: Isi. Mab Isi: Sesan. Mab Sesan: Alai.

Darllenwch bennod gyflawn 1 Cronicl 2