Hen Destament

Testament Newydd

1 Cronicl 16:17-26 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

17. yr hyn a osododd yn ddeddf i Jacob,ac yn gyfamod tragwyddol i Israel,

18. a dweud, “I chwi y rhoddaf wlad Canaanyn gyfran eich etifeddiaeth.”

19. Pan oeddech yn fychan o rif,yn ychydig, ac yn grwydriaid yn y wlad,

20. yn crwydro o genedl i genedl,ac o un deyrnas at bobl eraill,

21. ni adawodd i neb eich darostwng,ond ceryddodd frenhinoedd o'ch achos,

22. a dweud, “Peidiwch â chyffwrdd â'm heneiniog,na gwneud niwed i'm proffwydi.”

23. Canwch i'r ARGLWYDD, yr holl ddaear,cyhoeddwch o ddydd i ddydd ei iachawdwriaeth.

24. Dywedwch am ei ogoniant ymysg y bobloedd,ac am ei ryfeddodau ymysg yr holl genhedloedd.

25. Oherwydd mawr yw'r ARGLWYDD, a theilwng iawn o fawl;y mae i'w ofni'n fwy na'r holl dduwiau.

26. Eilunod yw holl dduwiau'r bobloedd,ond yr ARGLWYDD a wnaeth y nefoedd.

Darllenwch bennod gyflawn 1 Cronicl 16