Hen Destament

Testament Newydd

1 Cronicl 15:16-29 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

16. Rhoddodd Dafydd orchymyn i benaethiaid y Lefiaid osod eu brodyr yn gerddorion i ganu mawl yn llawen gydag offer cerdd, sef nablau, telynau a symbalau.

17. Felly etholodd y Lefiaid Heman fab Joel ac, o'i frodyr, Asaff fab Berecheia; a hefyd Ethnan fab Cusaia o blith eu brodyr, meibion Merari.

18. A chyda hwy eu brodyr o'r ail radd: y porthorion Sechareia, Jaasiel, Semiramoth, Jehiel, Unni, Eliab, Benaia, Maaseia, Matitheia, Eliffele, Micneia, Obed-edom a Jehiel.

19. Heman, Asaff ac Ethan, y cerddorion, oedd i seinio'r symbalau pres.

20. Sechareia, Asiel, Semiramoth, Jehiel, Unni, Eliab, Maaseia a Benaia oedd i ganu nablau ar Alamoth.

21. Matitheia, Eliffele, Micneia, Obed-edom, Jehiel ac Asaseia oedd i ganu'r telynau ac arwain ar Seminith.

22. Chenaneia, pennaeth y Lefiaid, oedd yn gofalu am y canu, ac ef oedd yn ei ddysgu i eraill am ei fod yn hyddysg ynddo.

23. Berecheia ac Elcana oedd i fod yn borthorion i'r arch.

24. Sebaneia, Jehosaffat, Nathaneel, Amisai, Sechareia, Benaia ac Elieser, yr offeiriaid, oedd i ganu'r trwmpedau o flaen arch Duw; yr oedd Obed-edom a Jeheia hefyd i fod yn borthorion i'r arch.

25. Felly aeth Dafydd a henuriaid Israel a phenaethiaid y miloedd i ddod ag arch cyfamod yr ARGLWYDD i fyny o dŷ Obed-edom mewn llawenydd.

26. Ac am i Dduw gynorthwyo'r Lefiaid oedd yn cario arch cyfamod yr ARGLWYDD, aberthasant saith o fustych a saith o hyrddod.

27. Yr oedd Dafydd wedi ei wisgo mewn lliain main, ac felly hefyd yr holl Lefiaid oedd yn cario'r arch, a'r cerddorion a'u pennaeth Chenaneia. Yr oedd gan Ddafydd effod liain hefyd.

28. Yr oedd holl Israel yn hebrwng arch cyfamod yr ARGLWYDD â banllefau a sain utgorn, ac yn canu trwmpedau, symbalau, nablau a thelynau.

29. Pan gyrhaeddodd arch cyfamod yr ARGLWYDD Ddinas Dafydd, yr oedd Michal merch Saul yn edrych drwy'r ffenestr, a gwelodd y Brenin Dafydd yn dawnsio ac yn gorfoleddu, a dirmygodd ef yn ei chalon.

Darllenwch bennod gyflawn 1 Cronicl 15