1. Adeiladodd Dafydd dai iddo'i hun yn Ninas Dafydd, a pharatoi lle i arch Duw a gosod pabell iddi.
2. Yna dywedodd, “Nid oes neb i gario arch Duw ond y Lefiaid, oherwydd hwy a ddewiswyd gan yr ARGLWYDD i'w chario ac i'w wasanaethu ef am byth.”
3. Cynullodd Dafydd Israel gyfan i Jerwsalem, i ddod ag arch yr ARGLWYDD i fyny i'r lle yr oedd wedi ei baratoi iddi.
4. Casglodd feibion Aaron a'r Lefiaid:
5. o feibion Cohath, Uriel y pennaeth a chant ac ugain o'i frodyr;
6. o feibion Merari, Asaia y pennaeth a dau gant ac ugain o'i frodyr;
7. o feibion Gersom, Joel y pennaeth a chant a thri deg o'i frodyr;
8. o feibion Elisaffan, Semaia y pennaeth a dau gant o'i frodyr;