22. Yr oedd Benaia fab Jehoiada o Cabseel yn ŵr dewr ac aml ei orchestion. Ef a laddodd ddau bencampwr o Moab; ef hefyd a aeth i lawr i bydew a lladd llew yno ar ddiwrnod o eira.
23. Lladdodd Eifftiwr, cawr o bum cufydd, er bod gan hwnnw waywffon fel carfan gwehydd yn ei law, ac yntau'n ymosod â dim ond ffon. Cipiodd y waywffon o law'r Eifftiwr, a'i ladd â'i waywffon ei hun.
24. Dyma wrhydri Benaia fab Jehoiada, ac enillodd enw iddo'i hun ymhlith y Deg Gwron ar Hugain.
25. Yr oedd yn enwog ymhlith y Deg ar Hugain, ond nid oedd i'w gymharu â'r Tri. Apwyntiodd Dafydd ef yn bennaeth ei warchodlu.
26. Y rhain oedd y gwroniaid: Asahel brawd Joab, Elhanan fab Dodo o Fethlehem,
27. Samma yr Harodiad, Heles y Peloniad.
28. Ira fab Icces y Tecoiad, Abieser yr Anathothiad,
29. Sibbechai yr Husathiad, Ilai yr Ahohiad,
30. Maharai y Netoffathiad, Heled fab Baana y Netoffathiad,
31. Itai fab Ribai o Gibea'r Benjaminiaid, Benaia y Pirathoniad,
32. Hurai o Nahale-gaas, Abiel yr Arbathiad,
33. Asmafeth y Bahrumiad, Eliahba y Saalboniad,
34. meibion Hasem y Gisoniad, Jonathan fab Sage yr Harariad,
35. Ahiam fab Sachar yr Harariad, Eliffal fab Ur,
36. Heffer y Mecherathiad, Aheia y Peloniad,
37. Hesro y Carmeliad, Naarai fab Esbai,
38. Joel brawd Nathan, Mibhar Haggeri,
39. Selec yr Ammoniad, Naharai y Beerothiad (cludydd arfau Joab fab Serfia),
40. Ira yr Ithriad, Gareb yr Ithriad,