Hen Destament

Testament Newydd

1 Cronicl 11:16-32 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

16. Yr oedd Dafydd ar y pryd yn y gaer, a garsiwn y Philistiaid ym Methlehem.

17. Cododd blys ar Ddafydd ac meddai, “O na chawn ddiod o ddŵr o bydew Bethlehem, sydd ger y porth!”

18. Ar hynny, rhuthrodd y tri trwy wersyll y Philistiaid, codi dŵr o bydew Bethlehem gerllaw'r porth, a'i gludo'n ôl at Ddafydd. Eto, ni fynnai ef ei yfed, a thywalltodd ef yn offrwm i'r ARGLWYDD,

19. a dweud, “Na ato Duw i mi wneud hyn! A allaf fi yfed gwaed y gwŷr hyn a fentrodd eu heinioes i ddod ag ef i mi?” Felly gwrthododd ei yfed. Dyma wrhydri y tri gwron.

20. Abisai brawd Joab fab Serfia oedd pennaeth y Deg ar Hugain. Chwifiodd ef ei waywffon mewn buddugoliaeth uwchben trichant o wŷr, a lladdodd hwy gan ennill enw iddo'i hun ymhlith y Deg ar Hugain.

21. Yr oedd ef yn enwog ymhlith y Deg ar Hugain, ac yn gapten arnynt; ond nid oedd i'w gymharu â'r Tri.

22. Yr oedd Benaia fab Jehoiada o Cabseel yn ŵr dewr ac aml ei orchestion. Ef a laddodd ddau bencampwr o Moab; ef hefyd a aeth i lawr i bydew a lladd llew yno ar ddiwrnod o eira.

23. Lladdodd Eifftiwr, cawr o bum cufydd, er bod gan hwnnw waywffon fel carfan gwehydd yn ei law, ac yntau'n ymosod â dim ond ffon. Cipiodd y waywffon o law'r Eifftiwr, a'i ladd â'i waywffon ei hun.

24. Dyma wrhydri Benaia fab Jehoiada, ac enillodd enw iddo'i hun ymhlith y Deg Gwron ar Hugain.

25. Yr oedd yn enwog ymhlith y Deg ar Hugain, ond nid oedd i'w gymharu â'r Tri. Apwyntiodd Dafydd ef yn bennaeth ei warchodlu.

26. Y rhain oedd y gwroniaid: Asahel brawd Joab, Elhanan fab Dodo o Fethlehem,

27. Samma yr Harodiad, Heles y Peloniad.

28. Ira fab Icces y Tecoiad, Abieser yr Anathothiad,

29. Sibbechai yr Husathiad, Ilai yr Ahohiad,

30. Maharai y Netoffathiad, Heled fab Baana y Netoffathiad,

31. Itai fab Ribai o Gibea'r Benjaminiaid, Benaia y Pirathoniad,

32. Hurai o Nahale-gaas, Abiel yr Arbathiad,

Darllenwch bennod gyflawn 1 Cronicl 11