Hen Destament

Testament Newydd

1 Cronicl 11:1-7 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

1. Daeth holl Israel at Ddafydd i Hebron a dweud wrtho, “Edrych, dy asgwrn a'th gnawd di ydym ni.

2. Gynt, pan oedd Saul yn frenin, ti oedd yn arwain Israel allan i ryfel ac yn ôl wedyn; ac fe ddywedodd yr ARGLWYDD dy Dduw wrthyt, ‘Ti sydd i fugeilio fy mhobl Israel; ti sydd i fod yn dywysog arnynt.’ ”

3. Yna daeth holl henuriaid Israel i Hebron at y brenin, a gwnaeth Dafydd gyfamod â hwy yno gerbron yr ARGLWYDD, ac eneiniwyd Dafydd yn frenin ar Israel, yn ôl gair yr ARGLWYDD trwy Samuel.

4. Pan aeth Dafydd a holl Israel i Jerwsalem (hynny yw, Jebus, lle'r oedd y Jebusiaid, trigolion y wlad, yn byw)

5. dywedodd pobl Jebus wrth Ddafydd, “Ni chei ddod i mewn yma.” Er hynny, fe enillodd Dafydd gaer Seion, sef Dinas Dafydd,

6. a dywedodd, “Caiff y cyntaf i daro'r Jebusiaid ei wneud yn ben swyddog.” Y cyntaf i fynd i fyny oedd Joab fab Serfia; felly cafodd ei wneud yn ben.

7. Yna fe ymsefydlodd Dafydd yn y gaer, ac am hynny fe'i gelwir yn Ddinas Dafydd.

Darllenwch bennod gyflawn 1 Cronicl 11