Hen Destament

Testament Newydd

1 Cronicl 1:45-54 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

45. Bu farw Jobab, a theyrnasodd Husam o wlad y Temaniaid yn ei le.

46. Bu farw Husam, a theyrnasodd Hadad fab Bedad yn ei le; ymosododd ef ar Midian yng ngwlad Moab, ac Afith oedd enw ei ddinas.

47. Bu farw Hadad, a theyrnasodd Samla o Masreca yn ei le.

48. Bu farw Samla, a theyrnasodd Saul o Rehoboth-ger-Ewffrates yn ei le.

49. Bu farw Saul, a theyrnasodd Baal-hanan fab Achbor yn ei le.

50. Bu farw Baal-hanan, a theyrnasodd Hadad yn ei le, a Pai oedd enw ei ddinas. Mehetabel ferch Matred, merch Mesahab, oedd enw ei wraig.

51. Bu farw Hadad; yna daeth penaethiaid ar Edom: y penaethiaid Timna, Alia, Jetheth,

52. Aholibama, Ela, Pinon,

53. Cenas, Teman, Mibsar,

54. Magdiel, Iram; y rhain oedd penaethiaid Edom.

Darllenwch bennod gyflawn 1 Cronicl 1