43. Dyma'r brenhinoedd a fu'n teyrnasu yng ngwlad Edom cyn i'r Israeliaid gael brenin: Bela fab Beor; enw ei ddinas ef oedd Dinhaba.
44. Bu farw Bela, a theyrnasodd Jobab fab Sera o Bosra yn ei le.
45. Bu farw Jobab, a theyrnasodd Husam o wlad y Temaniaid yn ei le.
46. Bu farw Husam, a theyrnasodd Hadad fab Bedad yn ei le; ymosododd ef ar Midian yng ngwlad Moab, ac Afith oedd enw ei ddinas.