39. Meibion Lotan: Hori, Homam; a chwaer Lotan oedd Timna.
40. Meibion Sobal: Alïan, Manahath, Ebal, Seffi, Onam. Meibion Sibeon: Aia ac Ana.
41. Mab Ana: Dison. Meibion Dison: Amram, Esban, Ithran, Ceran.
42. Meibion Eser: Bilhan, Safan, Jacan. Meibion Dison: Us ac Aran.
43. Dyma'r brenhinoedd a fu'n teyrnasu yng ngwlad Edom cyn i'r Israeliaid gael brenin: Bela fab Beor; enw ei ddinas ef oedd Dinhaba.
44. Bu farw Bela, a theyrnasodd Jobab fab Sera o Bosra yn ei le.
45. Bu farw Jobab, a theyrnasodd Husam o wlad y Temaniaid yn ei le.
46. Bu farw Husam, a theyrnasodd Hadad fab Bedad yn ei le; ymosododd ef ar Midian yng ngwlad Moab, ac Afith oedd enw ei ddinas.
47. Bu farw Hadad, a theyrnasodd Samla o Masreca yn ei le.
48. Bu farw Samla, a theyrnasodd Saul o Rehoboth-ger-Ewffrates yn ei le.
49. Bu farw Saul, a theyrnasodd Baal-hanan fab Achbor yn ei le.
50. Bu farw Baal-hanan, a theyrnasodd Hadad yn ei le, a Pai oedd enw ei ddinas. Mehetabel ferch Matred, merch Mesahab, oedd enw ei wraig.
51. Bu farw Hadad; yna daeth penaethiaid ar Edom: y penaethiaid Timna, Alia, Jetheth,
52. Aholibama, Ela, Pinon,
53. Cenas, Teman, Mibsar,
54. Magdiel, Iram; y rhain oedd penaethiaid Edom.