Hen Destament

Testament Newydd

1 Brenhinoedd 8:37-41 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

37. “Os bydd yn y wlad newyn, haint, deifiad, malltod, locustiaid neu lindys, neu os bydd gelyn yn gwarchae ar unrhyw un o'i dinasoedd—beth bynnag fo'r pla neu'r clefyd—

38. clyw bob gweddi, pob deisyfiad gan bawb o'th bobl Israel wrth i bob un sy'n ymwybodol o'i glwy ei hun estyn ei ddwylo tua'r tŷ hwn;

39. gwrando hefyd yn y nef lle'r wyt yn preswylio, a maddau. Gweithreda a rho i bob un yn ôl ei ffyrdd, oherwydd yr wyt ti'n deall ei fwriad; canys ti yn unig sy'n adnabod calon pob un;

40. felly byddant yn dy ofni holl ddyddiau eu bywyd ar wyneb y tir a roddaist i'n hynafiaid.

41. “Os daw rhywun dieithr, nad yw'n un o'th bobl Israel, o wlad bell er mwyn dy enw—

Darllenwch bennod gyflawn 1 Brenhinoedd 8