Hen Destament

Testament Newydd

1 Brenhinoedd 7:24-29 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

24. O amgylch y môr, yn ei gylchynu dan ei ymyl am ddeg cufydd ar hugain, yr oedd cnapiau; yr oeddent mewn dwy res ac wedi eu bwrw'n rhan ohono.

25. Safai'r môr ar gefn deuddeg ych, tri yn wynebu tua'r gogledd, tri tua'r gorllewin, tri tua'r de, a thri tua'r dwyrain, a'u cynffonnau at i mewn.

26. Dyrnfedd oedd ei drwch, a'i ymyl wedi ei weithio fel ymyl cwpan neu flodyn lili; yr oedd yn dal dwy fil o bathau.

27. Gwnaeth hefyd ddeg o drolïau pres, yn bedwar cufydd o hyd a phedwar cufydd o led a thri chufydd o uchder.

28. Yng ngwneuthuriad y trolïau yr oedd panelau rhwng fframiau, ac ar y panelau hyn yr oedd llewod ac ychen a cherwbiaid.

29. Ac yr oedd plethennau o riswaith ar y fframiau, uwchben ac o dan y llewod a'r ychen.

Darllenwch bennod gyflawn 1 Brenhinoedd 7