13. Rhoddaf hefyd iti yr hyn nis gofynnaist, sef cyfoeth a gogoniant, fel na bydd dy fath ymysg brenhinoedd, dy holl ddyddiau di.
14. Ac os bydd iti rodio yn fy ffyrdd, a chadw fy neddfau a'm gorchmynion, fel y rhodiodd dy dad Dafydd, estynnaf dy ddyddiau hefyd.”
15. Deffrôdd Solomon, a sylweddoli mai breuddwyd oedd. Pan ddaeth yn ôl i Jerwsalem, safodd o flaen arch cyfamod yr ARGLWYDD ac offrymodd boethoffrymau a heddoffrymau, a gwnaeth wledd i'w holl weision.
16. Daeth dwy buteinwraig at y brenin a sefyll o'i flaen.
17. Dywedodd y naill, “O f'arglwydd, roeddwn i a'r wraig hon yn byw yn yr un tŷ, ac esgorais ar blentyn yn y tŷ, a hithau yno.
18. Tridiau wedi i mi esgor, esgorodd y wraig hon hefyd, heb neb ond ni'n dwy yn y tŷ.
19. Bu farw plentyn y wraig hon yn y nos, am iddi orwedd arno;
20. cododd hithau yn ystod y nos a chymryd fy mab o'm hymyl tra oeddwn i, dy lawforwyn, yn cysgu, a'i gymryd i'w chôl a gosod ei phlentyn marw yn fy nghôl i.
21. Pan godais yn y bore i roi sugn i'm mab, yr oedd yn farw; ond wedi imi graffu arno yn y bore, nid hwnnw oedd y mab yr esgorais i arno.”
22. Meddai'r wraig arall, “Na, fy mab i yw'r un byw; dy fab di yw'r un marw.” Yna, dyma'r gyntaf yn dweud, “Na, dy fab di yw'r marw; fy mab i yw'r byw.” Taeru felly y buont gerbron y brenin.
23. Yna dywedodd y brenin, “Y mae'r naill yn dweud, ‘Hwn yw fy mab i, y byw; yr un marw yw dy fab di.’ Ac y mae'r llall yn dweud, ‘Na, dy fab di yw'r marw; fy mab i yw'r byw.’ ”
24. Yna dywedodd y brenin, “Dewch â chleddyf imi.”
25. Pan ddaethant â'r cleddyf gerbron y brenin, ebe'r brenin, “Rhannwch y bachgen byw yn ddau, a rhowch hanner i'r naill a hanner i'r llall.”
26. Ond meddai'r wraig oedd piau'r plentyn byw wrth y brenin (oherwydd enynnodd ei thosturi tuag at ei baban), “O f'arglwydd, rhowch iddi hi y plentyn byw, a pheidiwch â'i ladd ar un cyfrif.”