Hen Destament

Testament Newydd

1 Brenhinoedd 21:26-29 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

26. Gwnaeth yn ffiaidd iawn trwy addoli eilunod, yn hollol fel y gwnâi'r Amoriaid a yrrodd yr ARGLWYDD allan o flaen yr Israeliaid.

27. Cyn gynted ag y clywodd Ahab eiriau Elias, rhwygodd ei ddillad a gwisgo sachliain ar ei gnawd, ac ymprydio, a chysgu ar sachliain, a cherdded yn araf.

28. Daeth gair yr ARGLWYDD at Elias y Thesbiad yn dweud,

29. “A sylwaist ti fod Ahab wedi ymostwng ger fy mron? Gan ei fod wedi ymostwng ger fy mron, nid wyf am ddod â'r drwg yn ei ddyddiau ef; yn nyddiau ei fab y dygaf y drwg ar ei deulu.”

Darllenwch bennod gyflawn 1 Brenhinoedd 21