Hen Destament

Testament Newydd

1 Brenhinoedd 21:17-29 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

17. Daeth gair yr ARGLWYDD at Elias y Thesbiad a dweud,

18. “Cod, a dos i lawr i gyfarfod Ahab brenin Israel yn Samaria. Fe'i cei yng ngwinllan Naboth; y mae wedi mynd yno i'w meddiannu.

19. Dywed wrtho, ‘Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD: “Wedi llofruddio, a fynni di hefyd feddiannu?” ’ Dywed hefyd wrtho, ‘Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD: “Lle y llyfodd y cŵn waed Naboth, fe lyfant dy waed dithau.” ’ ”

20. Dywedodd Ahab wrth Elias, “A ddaethost o hyd i mi, fy ngelyn?” Atebodd yntau, “Do; ac am dy fod wedi ymroi i wneud drwg yng ngolwg yr ARGLWYDD,

21. rwyf yn dwyn drwg arnat ti, ac yn dileu dy hiliogaeth; difodaf bob gwryw yn perthyn i Ahab yn Israel, caeth a rhydd.

22. Gwnaf dy dŷ fel tŷ Jeroboam fab Nebat a thŷ Baasa fab Aheia, oherwydd y dicter a achosaist wrth beri i Israel bechu.

23. Ac am Jesebel, fe ddywed yr ARGLWYDD, ‘Y cŵn fydd yn bwyta Jesebel wrth fur Jesreel.’

24. Bydd y cŵn yn bwyta pob aelod o deulu Ahab a fydd farw yn y dref, ac adar rheibus yn bwyta pob un a fydd farw allan yn y wlad.”

25. Eto ni bu neb cynddrwg ag Ahab mewn ymroi i wneud drwg yng ngolwg yr ARGLWYDD, am fod Jesebel ei wraig yn ei annog.

26. Gwnaeth yn ffiaidd iawn trwy addoli eilunod, yn hollol fel y gwnâi'r Amoriaid a yrrodd yr ARGLWYDD allan o flaen yr Israeliaid.

27. Cyn gynted ag y clywodd Ahab eiriau Elias, rhwygodd ei ddillad a gwisgo sachliain ar ei gnawd, ac ymprydio, a chysgu ar sachliain, a cherdded yn araf.

28. Daeth gair yr ARGLWYDD at Elias y Thesbiad yn dweud,

29. “A sylwaist ti fod Ahab wedi ymostwng ger fy mron? Gan ei fod wedi ymostwng ger fy mron, nid wyf am ddod â'r drwg yn ei ddyddiau ef; yn nyddiau ei fab y dygaf y drwg ar ei deulu.”

Darllenwch bennod gyflawn 1 Brenhinoedd 21