16. A phan glywodd Ahab fod Naboth wedi marw, aeth i lawr i winllan Naboth y Jesreeliad i'w meddiannu.
17. Daeth gair yr ARGLWYDD at Elias y Thesbiad a dweud,
18. “Cod, a dos i lawr i gyfarfod Ahab brenin Israel yn Samaria. Fe'i cei yng ngwinllan Naboth; y mae wedi mynd yno i'w meddiannu.
19. Dywed wrtho, ‘Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD: “Wedi llofruddio, a fynni di hefyd feddiannu?” ’ Dywed hefyd wrtho, ‘Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD: “Lle y llyfodd y cŵn waed Naboth, fe lyfant dy waed dithau.” ’ ”
20. Dywedodd Ahab wrth Elias, “A ddaethost o hyd i mi, fy ngelyn?” Atebodd yntau, “Do; ac am dy fod wedi ymroi i wneud drwg yng ngolwg yr ARGLWYDD,
21. rwyf yn dwyn drwg arnat ti, ac yn dileu dy hiliogaeth; difodaf bob gwryw yn perthyn i Ahab yn Israel, caeth a rhydd.
22. Gwnaf dy dŷ fel tŷ Jeroboam fab Nebat a thŷ Baasa fab Aheia, oherwydd y dicter a achosaist wrth beri i Israel bechu.