Hen Destament

Testament Newydd

1 Brenhinoedd 20:7-21 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

7. Yna galwodd brenin Israel holl henuriaid y wlad a dweud, “Sylwch fel y mae hwn am fynnu helynt. Oherwydd pan anfonodd ataf am fy ngwragedd a'm plant, a'm harian a'm haur, nid oeddwn yn eu gomedd iddo.”

8. Dywedodd yr henuriaid i gyd a'r holl bobl wrtho, “Paid â gwrando, a phaid â chytuno.”

9. Yna dywedodd y brenin wrth negesyddion Ben-hadad, “Dywedwch wrth f'arglwydd frenin, ‘Gwnaf bopeth a hawliaist gan dy was y tro cyntaf, ond ni allaf wneud y peth hwn.’ ” Ymadawodd y negesyddion a mynd â'r ateb i Ben-hadad.

10. Anfonodd hwnnw'n ôl a dweud, “Fel hyn y gwnelo'r duwiau i mi, a rhagor, os bydd llwch Samaria yn ddigon i wneud dyrnaid bob un i'r bobl sy'n fy nilyn.”

11. Ond ateb brenin Israel oedd, “Dywedwch wrtho, ‘Peidied yr un sy'n codi arfau ag ymffrostio fel yr un sy'n eu rhoi i lawr.’ ”

12. A phan glywodd Ben-hadad y dywediad hwn, ac yntau'n diota gyda'r brenhinoedd eraill yn y pebyll, dywedodd wrth ei weision, “Ymosodwch.” Ac ymosodasant ar y ddinas.

13. Daeth rhyw broffwyd at Ahab brenin Israel a dweud wrtho, “Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD: ‘A weli di'r holl dyrfa fawr hon? Rhoddaf hi yn dy law heddiw, a chei wybod mai fi yw'r ARGLWYDD.’ ”

14. Gofynnodd Ahab, “Trwy bwy?” Ac atebodd, “Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD: ‘Trwy filwyr ifainc llywodraethwyr y taleithiau.’ ” Yna gofynnodd, “Pwy sydd i gychwyn y frwydr?” Ac meddai'r proffwyd, “Tydi.”

15. Pan rifodd filwyr ifainc llywodraethwyr y taleithiau, yr oedd dau gant tri deg a dau ohonynt, ac yna rhifodd holl bobl Israel, ac yr oedd saith mil.

16. Ac aethant allan ganol dydd, pan oedd Ben-hadad yn meddwi yn y pebyll gyda'r deuddeg brenin ar hugain oedd yn ei gynorthwyo.

17. Daeth milwyr ifainc llywodraethwyr y taleithiau allan i ddechrau; ac anfonwyd neges at Ben-hadad fod dynion yn dod allan o Samaria.

18. Dywedodd, “Prun bynnag ai ceisio heddwch ai ceisio rhyfel y maent, daliwch hwy yn fyw.”

19. Parhau i ddod allan o'r ddinas a wnaeth milwyr ifainc llywodraethwyr y taleithiau, gyda'r fyddin i'w canlyn.

20. Ac ymosododd pob un ar ei wrthwynebwr, nes i'r Syriaid ffoi, gyda'r Israeliaid ar eu gwarthaf; ond dihangodd Ben-hadad brenin Syria ar farch gyda gwŷr meirch.

21. Aeth brenin Israel allan a tharo'r meirch a'r cerbydau, a gwneud lladdfa fawr ymhlith y Syriaid.

Darllenwch bennod gyflawn 1 Brenhinoedd 20