Hen Destament

Testament Newydd

1 Brenhinoedd 20:40-43 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

40. Ond tra oedd dy was yn brysur hwnt ac yma, diflannodd y dyn.” Yna meddai brenin Israel wrtho, “Felly boed dy ddedfryd; tydi dy hun sydd wedi ei phennu.”

41. Heb oedi dim, tynnodd yntau'r cadach oddi ar ei lygaid, a gwelodd brenin Israel mai un o'r proffwydi oedd.

42. Dywedodd wrtho, “Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD: ‘Am iti ollwng yn rhydd y gŵr oedd i'w ddifodi, rhaid i ti gymryd ei le, a'th bobl di le ei bobl ef.’ ”

43. Dychwelodd brenin Israel adref i Samaria yn ddigalon a dig.

Darllenwch bennod gyflawn 1 Brenhinoedd 20