Hen Destament

Testament Newydd

1 Brenhinoedd 20:33-43 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

33. Yr oedd y dynion yn gwylio am arwydd, a buont yn gyflym i ddal ar ei eiriau, a dweud, “Ie, dy frawd Ben-hadad.” A dywedodd, “Ewch i'w nôl.” Pan ddaeth Ben-hadad allan ato, derbyniodd ef i'w gerbyd,

34. a dywedodd Ben-hadad wrtho, “Dychwelaf y trefi a ddygodd fy nhad oddi ar dy dad; a chei osod marchnadau i ti dy hun yn Namascus, fel y gwnaeth fy nhad yn Samaria; rhyddha fi ar yr amod hwn.” A gwnaeth Ahab gytundeb ag ef a'i ollwng yn rhydd.

35. Yna dywedodd un o urdd y proffwydi wrth gyfaill iddo trwy air yr ARGLWYDD, “Taro fi'n awr.” Ond gwrthododd ei gyfaill ei daro.

36. A dywedodd yntau wrtho, “Am iti wrthod ufuddhau i lais yr ARGLWYDD, bydd llew yn ymosod arnat pan ei oddi wrthyf.” Ac wedi iddo fynd oddi wrtho, cyfarfu llew ag ef ac ymosod arno.

37. Yna cafodd y proffwyd ŵr arall a dweud, “Taro fi'n awr.” A thrawodd y gŵr hwnnw ef a'i glwyfo.

38. Wedyn aeth y proffwyd a disgwyl am y brenin ar y ffordd, a chadach dros ei lygaid rhag iddo'i adnabod.

39. Pan ddaeth y brenin heibio, llefodd arno a dweud, “Aeth dy was i ganol y frwydr, a dyna rywun yn dod ac yn trosglwyddo dyn imi ac yn dweud, ‘Edrych ar ôl y dyn yma; os bydd yn dianc, rhaid i ti gymryd ei le neu dalu talent o arian.’

40. Ond tra oedd dy was yn brysur hwnt ac yma, diflannodd y dyn.” Yna meddai brenin Israel wrtho, “Felly boed dy ddedfryd; tydi dy hun sydd wedi ei phennu.”

41. Heb oedi dim, tynnodd yntau'r cadach oddi ar ei lygaid, a gwelodd brenin Israel mai un o'r proffwydi oedd.

42. Dywedodd wrtho, “Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD: ‘Am iti ollwng yn rhydd y gŵr oedd i'w ddifodi, rhaid i ti gymryd ei le, a'th bobl di le ei bobl ef.’ ”

43. Dychwelodd brenin Israel adref i Samaria yn ddigalon a dig.

Darllenwch bennod gyflawn 1 Brenhinoedd 20