Hen Destament

Testament Newydd

1 Brenhinoedd 20:29-40 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

29. Bu'r naill yn gwersyllu gyferbyn â'r llall am wythnos; yna ar y seithfed dydd dechreuodd y frwydr, a thrawodd yr Israeliaid gan mil o wŷr traed y Syriaid mewn un dydd.

30. Ffodd y gweddill i ddinas Affec, a chwympodd y mur ar y saith mil ar hugain ohonynt.

31. Ffodd Ben-hadad hefyd i'r ddinas, a chyrraedd y gaer nesaf i mewn. Ac meddai ei weision wrtho, “Gwrando'n awr, clywsom fod brenhinoedd Israel yn frenhinoedd tirion. Gad inni wisgo sachliain a rhoi rhaffau am ein gyddfau, a mynd allan at frenin Israel; efallai yr arbed dy einioes.”

32. A rhoesant sachliain am eu llwynau a rhaffau am eu gyddfau, a mynd at frenin Israel a dweud wrtho, “Mae dy was Ben-hadad yn dweud, ‘Arbed fy mywyd.’ ” Meddai yntau, “A yw'n fyw o hyd? Fy mrawd ydyw.”

33. Yr oedd y dynion yn gwylio am arwydd, a buont yn gyflym i ddal ar ei eiriau, a dweud, “Ie, dy frawd Ben-hadad.” A dywedodd, “Ewch i'w nôl.” Pan ddaeth Ben-hadad allan ato, derbyniodd ef i'w gerbyd,

34. a dywedodd Ben-hadad wrtho, “Dychwelaf y trefi a ddygodd fy nhad oddi ar dy dad; a chei osod marchnadau i ti dy hun yn Namascus, fel y gwnaeth fy nhad yn Samaria; rhyddha fi ar yr amod hwn.” A gwnaeth Ahab gytundeb ag ef a'i ollwng yn rhydd.

35. Yna dywedodd un o urdd y proffwydi wrth gyfaill iddo trwy air yr ARGLWYDD, “Taro fi'n awr.” Ond gwrthododd ei gyfaill ei daro.

36. A dywedodd yntau wrtho, “Am iti wrthod ufuddhau i lais yr ARGLWYDD, bydd llew yn ymosod arnat pan ei oddi wrthyf.” Ac wedi iddo fynd oddi wrtho, cyfarfu llew ag ef ac ymosod arno.

37. Yna cafodd y proffwyd ŵr arall a dweud, “Taro fi'n awr.” A thrawodd y gŵr hwnnw ef a'i glwyfo.

38. Wedyn aeth y proffwyd a disgwyl am y brenin ar y ffordd, a chadach dros ei lygaid rhag iddo'i adnabod.

39. Pan ddaeth y brenin heibio, llefodd arno a dweud, “Aeth dy was i ganol y frwydr, a dyna rywun yn dod ac yn trosglwyddo dyn imi ac yn dweud, ‘Edrych ar ôl y dyn yma; os bydd yn dianc, rhaid i ti gymryd ei le neu dalu talent o arian.’

40. Ond tra oedd dy was yn brysur hwnt ac yma, diflannodd y dyn.” Yna meddai brenin Israel wrtho, “Felly boed dy ddedfryd; tydi dy hun sydd wedi ei phennu.”

Darllenwch bennod gyflawn 1 Brenhinoedd 20