19. Parhau i ddod allan o'r ddinas a wnaeth milwyr ifainc llywodraethwyr y taleithiau, gyda'r fyddin i'w canlyn.
20. Ac ymosododd pob un ar ei wrthwynebwr, nes i'r Syriaid ffoi, gyda'r Israeliaid ar eu gwarthaf; ond dihangodd Ben-hadad brenin Syria ar farch gyda gwŷr meirch.
21. Aeth brenin Israel allan a tharo'r meirch a'r cerbydau, a gwneud lladdfa fawr ymhlith y Syriaid.
22. Yna daeth y proffwyd at frenin Israel a dweud wrtho, “Dos i geisio ymgryfhau a phenderfynu'n ofalus beth a wnei, oherwydd gyda'r gwanwyn fe ddaw brenin Syria yn dy erbyn.”
23. Dywedodd gweision brenin Syria wrtho, “Duwiau'r mynyddoedd yw eu duwiau hwy; dyna pam y buont yn drech na ni. Ond pe baem ni'n ymladd â hwy ar y gwastadedd, yn sicr fe'u trechem.
24. Dyma a wnei: diswydda bob un o'r brenhinoedd hyn, gosod raglawiaid yn eu lle,
25. a chasgl ynghyd fyddin debyg i'r un a gollaist, gyda march am farch a cherbyd am gerbyd. Gad inni ymladd â hwy ar y gwastadedd, ac yn sicr fe'u trechwn.” Cytunodd y brenin i wneud hynny.
26. Yn y gwanwyn casglodd Ben-hadad y Syriaid i ryfela ag Israel, ac aeth i Affec.
27. Yna galwyd yr Israeliaid i fyny, a darparu bwyd ar eu cyfer, ac aethant i'w gwrthsefyll. Yr oedd yr Israeliaid yn eu gwersyll gyferbyn â hwy fel dwy ddiadell fach o eifr, a'r Syriaid yn llenwi'r wlad.
28. A daeth gŵr Duw at frenin Israel a dweud, “Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD: ‘Am fod y Syriaid wedi dweud mai Duw mynydd-dir yw'r ARGLWYDD, ac nad yw'n Dduw gwastatir, yr wyf am roi'r holl dyrfa fawr hon yn dy law; a chewch wybod mai myfi yw'r ARGLWYDD.’ ”
29. Bu'r naill yn gwersyllu gyferbyn â'r llall am wythnos; yna ar y seithfed dydd dechreuodd y frwydr, a thrawodd yr Israeliaid gan mil o wŷr traed y Syriaid mewn un dydd.