Hen Destament

Testament Newydd

1 Brenhinoedd 20:10-13 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

10. Anfonodd hwnnw'n ôl a dweud, “Fel hyn y gwnelo'r duwiau i mi, a rhagor, os bydd llwch Samaria yn ddigon i wneud dyrnaid bob un i'r bobl sy'n fy nilyn.”

11. Ond ateb brenin Israel oedd, “Dywedwch wrtho, ‘Peidied yr un sy'n codi arfau ag ymffrostio fel yr un sy'n eu rhoi i lawr.’ ”

12. A phan glywodd Ben-hadad y dywediad hwn, ac yntau'n diota gyda'r brenhinoedd eraill yn y pebyll, dywedodd wrth ei weision, “Ymosodwch.” Ac ymosodasant ar y ddinas.

13. Daeth rhyw broffwyd at Ahab brenin Israel a dweud wrtho, “Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD: ‘A weli di'r holl dyrfa fawr hon? Rhoddaf hi yn dy law heddiw, a chei wybod mai fi yw'r ARGLWYDD.’ ”

Darllenwch bennod gyflawn 1 Brenhinoedd 20