Hen Destament

Testament Newydd

1 Brenhinoedd 20:1-5 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

1. Casglodd Ben-hadad brenin Syria ei holl lu, gyda meirch a cherbydau, a deuddeg ar hugain o frenhinoedd gydag ef, ac aeth i warchae ar Samaria a brwydro yn ei herbyn.

2. Anfonodd negesyddion i'r ddinas at Ahab brenin Israel,

3. a dweud wrtho, “Fel hyn y dywed Ben-hadad: ‘Fi piau dy arian a'th aur, a hefyd dy wragedd a'th blant tecaf.’ ”

4. Atebodd brenin Israel, “Fel y dywedi, f'arglwydd frenin; ti piau fi a phopeth a feddaf.”

5. Ond daeth y negesyddion yn ôl drachefn a dweud, “Fel hyn y dywed Ben-hadad: ‘Anfonais atat a dweud, “Dy arian a'th aur, a hefyd dy wragedd a'th blant a roddi imi”;

Darllenwch bennod gyflawn 1 Brenhinoedd 20