Hen Destament

Testament Newydd

1 Brenhinoedd 2:33-45 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

33. Erys eu gwaed hwy ar ben Joab a'i ddisgynyddion yn dragywydd; ond i Ddafydd a'i ddisgynyddion a'i deulu a'i orsedd fe fydd llwydd oddi wrth yr ARGLWYDD yn dragywydd.”

34. Aeth Benaia fab Jehoiada i fyny, ac ymosod ar Joab a'i ladd; a chladdwyd ef yn ei gartref yn yr anialwch.

35. Gosododd y brenin Benaia fab Jehoiada yn bennaeth y fyddin yn lle Joab, a Sadoc yr offeiriad yn lle Abiathar.

36. Yna gwysiodd y brenin Simei a dweud wrtho, “Adeilada dŷ yn Jerwsalem a thrig yno. Paid â symud oddi yno i unman,

37. oherwydd, cymer rybudd, yn y dydd y byddi'n croesi nant Cidron byddi farw'n gelain; bydd dy waed arnat ti dy hun.”

38. Dywedodd Simei wrth y brenin, “Purion! Fel y mae f'arglwydd frenin yn gorchymyn y gwna dy was.”

39. Trigodd Simei am gyfnod yn Jerwsalem; ond ymhen tair blynedd, ffodd dau o gaethweision Simei at Achis fab Maacha, brenin Gath.

40. Hysbyswyd Simei fod ei weision yn Gath, a chyfrwyodd ei asyn a mynd i Gath at Achis i geisio'i weision; ac aeth a dod â'i weision yn ôl o Gath.

41. Pan hysbyswyd Solomon i Simei fynd o Jerwsalem i Gath a dychwelyd,

42. gwysiodd y brenin Simei a dweud wrtho, “Oni thynghedais di yn enw'r ARGLWYDD? Oni rybuddiais di y byddit farw'n gelain y dydd yr ait allan i unrhyw fan? A dywedaist wrthyf, ‘Purion! Fe ufuddhaf.’

43. Pam na chedwaist lw yr ARGLWYDD a'r gorchymyn a roddais i ti?”

44. Yna dywedodd y brenin wrth Simei, “Fe wyddost yn dy galon yr holl ddrygioni a wnaethost i'm tad Dafydd.

45. Fe ddial yr ARGLWYDD dy ddrygioni arnat, ond bendithir y Brenin Solomon, a sicrheir gorsedd Dafydd gerbron yr ARGLWYDD yn dragywydd.”

Darllenwch bennod gyflawn 1 Brenhinoedd 2