Hen Destament

Testament Newydd

1 Brenhinoedd 18:6-17 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

6. Ac wedi rhannu'r wlad rhyngddynt i gerdded drwyddi, aeth Ahab ei hun un ffordd, ac Obadeia ffordd arall.

7. A phan oedd Obadeia ar ei ffordd, daeth Elias i'w gyfarfod; adnabu yntau ef, a syrthio ar ei wyneb a dweud, “Ai ti sydd yna, f'arglwydd Elias?”

8. “Ie,” atebodd yntau, “dos a dywed wrth dy arglwydd fod Elias ar gael.”

9. Ond meddai hwnnw, “Beth yw fy mai, dy fod yn rhoi dy was yn llaw Ahab i'm lladd?

10. Cyn wired â bod yr ARGLWYDD dy Dduw yn fyw, nid oes na chenedl na theyrnas nad yw f'arglwydd wedi anfon yno i'th geisio; a phan ddywedent, ‘Nid yw yma’, byddai'n mynnu i'r deyrnas neu'r genedl dyngu llw nad oeddent wedi dy weld.

11. A dyma ti'n dweud wrthyf, ‘Dos a dywed wrth dy arglwydd fod Elias ar gael’!

12. Cyn gynted ag yr af oddi wrthyt, bydd ysbryd yr ARGLWYDD yn dy gipio, ni wn i ble. Ac os af i ddweud wrth Ahab, ac yntau'n methu dy gael, bydd yn fy lladd—ac y mae dy was wedi ofni'r ARGLWYDD er pan oedd yn fachgen.

13. Oni ddywedodd neb wrth f'arglwydd yr hyn a wneuthum pan oedd Jesebel yn lladd proffwydi'r ARGLWYDD, fy mod wedi cuddio cant o broffwydi'r ARGLWYDD mewn ogof, fesul hanner cant, a'u cynnal â bwyd a diod?

14. A dyma ti'n dweud wrthyf, ‘Dos a dywed wrth f'arglwydd fod Elias ar gael’! Y mae'n sicr o'm lladd.”

15. Dywedodd Elias, “Cyn wired â bod ARGLWYDD y Lluoedd yn fyw, yr hwn yr wyf yn ei wasanaethu, yr wyf am ymddangos iddo heddiw.”

16. Yna aeth Obadeia i gyfarfod Ahab a dweud wrtho; ac aeth Ahab i gyfarfod Elias.

17. Pan welodd Ahab ef, dywedodd wrtho, “Ai ti sydd yna, gythryblwr Israel?”

Darllenwch bennod gyflawn 1 Brenhinoedd 18