Hen Destament

Testament Newydd

1 Brenhinoedd 18:44-46 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

44. A'r seithfed tro dywedodd y llanc, “Mae yna gwmwl bychan fel cledr llaw yn codi o'r môr.” Yna dywedodd Elias wrtho, “Dos, dywed wrth Ahab, ‘Gwna dy gerbyd yn barod a dos, rhag i'r glaw dy rwystro.’ ”

45. Ar fyr dro duodd yr awyr gan gymylau a gwynt, a bu glaw trwm; ond yr oedd Ahab wedi gyrru yn ei gerbyd a chyrraedd Jesreel.

46. Daeth llaw yr ARGLWYDD ar Elias, tynhaodd yntau rwymyn am ei lwynau, a rhedodd o flaen Ahab hyd at y fynedfa i Jesreel.

Darllenwch bennod gyflawn 1 Brenhinoedd 18