Hen Destament

Testament Newydd

1 Brenhinoedd 18:3-18 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

3. Gan fod y newyn yn drwm yn Samaria, galwodd Ahab ar Obadeia, goruchwyliwr ei dŷ.

4. Yr oedd Obadeia yn ofni'r ARGLWYDD yn fawr, a phan ddistrywiodd Jesebel broffwydi'r ARGLWYDD, fe gymerodd Obadeia gant o broffwydi a'u cuddio mewn ogof fesul hanner cant, a'u cynnal â bwyd a diod.

5. A dywedodd Ahab wrth Obadeia, “Cerdda drwy'r wlad i bob ffynnon a nant, ac efallai y down o hyd i laswellt, a chadw'r ceffylau a'r mulod yn fyw, rhag inni golli pob anifail.”

6. Ac wedi rhannu'r wlad rhyngddynt i gerdded drwyddi, aeth Ahab ei hun un ffordd, ac Obadeia ffordd arall.

7. A phan oedd Obadeia ar ei ffordd, daeth Elias i'w gyfarfod; adnabu yntau ef, a syrthio ar ei wyneb a dweud, “Ai ti sydd yna, f'arglwydd Elias?”

8. “Ie,” atebodd yntau, “dos a dywed wrth dy arglwydd fod Elias ar gael.”

9. Ond meddai hwnnw, “Beth yw fy mai, dy fod yn rhoi dy was yn llaw Ahab i'm lladd?

10. Cyn wired â bod yr ARGLWYDD dy Dduw yn fyw, nid oes na chenedl na theyrnas nad yw f'arglwydd wedi anfon yno i'th geisio; a phan ddywedent, ‘Nid yw yma’, byddai'n mynnu i'r deyrnas neu'r genedl dyngu llw nad oeddent wedi dy weld.

11. A dyma ti'n dweud wrthyf, ‘Dos a dywed wrth dy arglwydd fod Elias ar gael’!

12. Cyn gynted ag yr af oddi wrthyt, bydd ysbryd yr ARGLWYDD yn dy gipio, ni wn i ble. Ac os af i ddweud wrth Ahab, ac yntau'n methu dy gael, bydd yn fy lladd—ac y mae dy was wedi ofni'r ARGLWYDD er pan oedd yn fachgen.

13. Oni ddywedodd neb wrth f'arglwydd yr hyn a wneuthum pan oedd Jesebel yn lladd proffwydi'r ARGLWYDD, fy mod wedi cuddio cant o broffwydi'r ARGLWYDD mewn ogof, fesul hanner cant, a'u cynnal â bwyd a diod?

14. A dyma ti'n dweud wrthyf, ‘Dos a dywed wrth f'arglwydd fod Elias ar gael’! Y mae'n sicr o'm lladd.”

15. Dywedodd Elias, “Cyn wired â bod ARGLWYDD y Lluoedd yn fyw, yr hwn yr wyf yn ei wasanaethu, yr wyf am ymddangos iddo heddiw.”

16. Yna aeth Obadeia i gyfarfod Ahab a dweud wrtho; ac aeth Ahab i gyfarfod Elias.

17. Pan welodd Ahab ef, dywedodd wrtho, “Ai ti sydd yna, gythryblwr Israel?”

18. Atebodd yntau, “Nid myfi sydd wedi cythryblu Israel, ond tydi a'th deulu, drwy wrthod gorchmynion yr ARGLWYDD a dilyn y Baalim.

Darllenwch bennod gyflawn 1 Brenhinoedd 18