Hen Destament

Testament Newydd

1 Brenhinoedd 18:27-39 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

27. Erbyn hanner dydd yr oedd Elias yn eu gwatwar ac yn dweud, “Galwch yn uwch, oherwydd duw ydyw; hwyrach ei fod yn synfyfyrio, neu wedi troi o'r neilltu, neu wedi mynd ar daith; neu efallai ei fod yn cysgu a bod yn rhaid ei ddeffro.”

28. Galwasant yn uwch, a'u hanafu eu hunain yn ôl eu harfer â chyllyll a phicellau nes i'r gwaed lifo arnynt.

29. Ac wedi i hanner dydd fynd heibio, yr oeddent yn dal i broffwydo'n orffwyll hyd adeg offrymu'r hwyroffrwm; ond nid oedd llef nac ateb na sylw i'w gael.

30. Yna dywedodd Elias wrth yr holl bobl, “Dewch yn nes ataf”; a daeth yr holl bobl ato. Trwsiodd yntau allor yr ARGLWYDD a oedd wedi ei malurio;

31. a chymerodd ddeuddeg carreg, yn ôl nifer llwythau meibion Jacob (yr un y daeth gair yr ARGLWYDD ato yn dweud, “Israel fydd dy enw”).

32. Yna adeiladodd y cerrig yn allor yn enw'r ARGLWYDD, ac o gylch yr allor gwneud ffos ddigon mawr i gymryd dau fesur o had.

33. Trefnodd y coed, a darnio'r bustach a'i osod ar y coed,

34. ac yna meddai, “Llanwch bedwar llestr â dŵr, a'i dywallt ar yr aberth a'r coed.” Yna dywedodd, “Gwnewch eilwaith”; a gwnaethant yr eildro. Yna dywedodd, “Gwnewch y drydedd waith”; a gwnaethant y trydydd tro,

35. nes bod y dŵr yn llifo o amgylch yr allor ac yn llenwi'r ffos.

36. Pan ddaeth awr offrymu'r hwyroffrwm, nesaodd y proffwyd Elias a dweud, “O ARGLWYDD, Duw Abraham, Isaac ac Israel, pâr wybod heddiw mai ti sydd Dduw yn Israel, a minnau'n was iti, ac mai trwy dy air di y gwneuthum hyn i gyd.

37. Ateb fi, O ARGLWYDD, ateb fi, er mwyn i'r bobl hyn wybod mai tydi, O ARGLWYDD, sydd Dduw, ac mai ti sydd yn troi eu calon yn ôl drachefn.”

38. Ar hynny disgynnodd tân yr ARGLWYDD ac ysu'r poethoffrwm, y coed, y cerrig, a'r llwch, a lleibio'r dŵr oedd yn y ffos.

39. Pan welsant, syrthiodd yr holl bobl ar eu hwyneb a dweud, “Yr ARGLWYDD sydd Dduw! Yr ARGLWYDD sydd Dduw!”

Darllenwch bennod gyflawn 1 Brenhinoedd 18