Hen Destament

Testament Newydd

1 Brenhinoedd 17:8-11 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

8. a daeth gair yr ARGLWYDD ato:

9. “Cod a dos i Sareffath, sydd yn perthyn i Sidon, ac aros yno; wele, yr wyf yn peri i wraig weddw yno dy borthi.”

10. Cododd a mynd i Sareffath, a phan gyrhaeddodd borth y dref, yno'r oedd gwraig weddw yn casglu priciau; galwodd arni a dweud, “Estyn imi gwpanaid bach o ddŵr, imi gael yfed.”

11. Pan aeth i'w 'mofyn, galwodd ar ei hôl, “A thyrd â thamaid o fara imi yn dy law.”

Darllenwch bennod gyflawn 1 Brenhinoedd 17