Hen Destament

Testament Newydd

1 Brenhinoedd 17:16-24 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

16. Nid aeth y celwrn blawd yn wag na'r stên olew yn sych, yn ôl gair yr ARGLWYDD drwy Elias.

17. Ymhen ysbaid clafychodd mab y wraig oedd biau'r tŷ; aeth yn ddifrifol wael, fel nad oedd anadl ar ôl ynddo.

18. A dywedodd hi wrth Elias, “Beth sydd gennyt yn f'erbyn, ŵr Duw? Ai dod ataf a wnaethost i dynnu sylw at fy nghamwedd, a lladd fy mab?”

19. Meddai yntau wrthi, “Rho dy fab i mi.” Cymerodd ef o'i mynwes a'i gludo i'r llofft lle'r oedd yn byw, a'i osod i orwedd ar ei wely.

20. Galwodd ar yr ARGLWYDD a dweud, “O ARGLWYDD, fy Nuw, a wyt yn dwyn drwg hyd yn oed ar y weddw y cefais lety ganddi, ac yn lladd ei mab?”

21. Yna ymestynnodd ar y bachgen dair gwaith, a galw ar yr ARGLWYDD a dweud, “O ARGLWYDD, fy Nuw, bydded i einioes y bachgen hwn ddod yn ôl iddo.”

22. Gwrandawodd yr ARGLWYDD ar lef Elias, a daeth einioes y bachgen yn ôl iddo, ac adfywiodd.

23. Cymerodd Elias y bachgen, a mynd ag ef i lawr o'r llofft i mewn i'r tŷ a'i roi i'w fam, a dweud, “Edrych, y mae dy fab yn fyw.”

24. Dywedodd y wraig wrth Elias, “Gwn yn awr dy fod yn ŵr Duw, a bod gair yr ARGLWYDD yn wir yn dy enau.”

Darllenwch bennod gyflawn 1 Brenhinoedd 17