Hen Destament

Testament Newydd

1 Brenhinoedd 17:1-9 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

1. Dywedodd Elias y Thesbiad o Thisbe yn Gilead wrth Ahab, “Cyn wired â bod ARGLWYDD Dduw Israel yn fyw, yr hwn yr wyf yn ei wasanaethu, ni bydd na gwlith na glaw y blynyddoedd hyn ond yn ôl fy ngair i.”

2. Wedyn daeth gair yr ARGLWYDD ato:

3. “Dos oddi yma a thro tua'r dwyrain ac ymguddia yn nant Cerith, sydd i'r dwyrain o'r Iorddonen.

4. Cei yfed o'r nant, a pharaf i gigfrain dy borthi yno.”

5. Aeth yntau a gwneud yn ôl gair yr ARGLWYDD ac aros yn nant Cerith i'r dwyrain o'r Iorddonen.

6. Bore a hwyr dôi cigfrain â bara a chig iddo, ac yfai o'r nant.

7. Ond ymhen amser sychodd y nant o ddiffyg glaw yn y wlad,

8. a daeth gair yr ARGLWYDD ato:

9. “Cod a dos i Sareffath, sydd yn perthyn i Sidon, ac aros yno; wele, yr wyf yn peri i wraig weddw yno dy borthi.”

Darllenwch bennod gyflawn 1 Brenhinoedd 17