Hen Destament

Testament Newydd

1 Brenhinoedd 14:3-17 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

3. Cymer yn dy law ddeg torth, teisennau a phot o fêl, a dos ato; ac fe ddywed wrthyt sut y bydd hi ar y llanc.”

4. Gwnaeth gwraig Jeroboam felly; aeth draw i Seilo a dod i dŷ Aheia. Yr oedd Aheia'n methu gweld, am fod ei lygaid wedi pylu gan henaint.

5. Dywedodd yr ARGLWYDD wrth Aheia, “Y mae gwraig Jeroboam yn dod atat i geisio gair gennyt ynglŷn â'i mab sy'n glaf; y peth a'r peth a ddywedi wrthi. Ond pan ddaw, bydd yn cymryd arni fod yn rhywun arall.”

6. Pan glywodd Aheia sŵn ei thraed yn cyrraedd y drws, dywedodd, “Tyrd i mewn, wraig Jeroboam; pam yr wyt ti'n cymryd arnat fod yn rhywun arall? Newydd drwg sydd gennyf i ti.

7. Dywed wrth Jeroboam, ‘Fel hyn y dywed ARGLWYDD Dduw Israel: Dyrchefais di o blith y bobl a'th osod yn dywysog ar fy mhobl Israel,

8. a rhwygais y deyrnas oddi ar linach Dafydd a'i rhoi i ti. Ond ni fuost fel fy ngwas Dafydd, yn cadw fy ngorchmynion ac yn fy nghanlyn â'i holl galon, i wneud yn unig yr hyn oedd yn uniawn yn fy ngolwg.

9. Yn hytrach gwnaethost fwy o ddrygioni na phawb o'th flaen. Buost yn gwneud duwiau estron a delwau tawdd er mwyn fy nghythruddo, a bwriaist fi heibio.

10. Felly dygaf ddrwg ar deulu Jeroboam, a difa pob gwryw, caeth neu rydd, sy'n perthyn iddo yn Israel; ysaf yn llwyr deulu Jeroboam, fel un yn llosgi gleuad, nes y bydd wedi llwyr ddarfod.

11. Bydd cŵn yn bwyta'r rhai o deulu Jeroboam a fydd farw yn y ddinas, ac adar rheibus yn bwyta'r rhai a fydd farw yn y wlad. Yr ARGLWYDD a'i dywedodd.’

12. “Dos dithau adref. Pan fyddi'n cyrraedd y dref, bydd farw'r bachgen.

13. Bydd holl Israel yn galaru amdano ac yn dod i'w angladd, oherwydd hwn yn unig o deulu Jeroboam a gaiff feddrod, gan mai ynddo ef o blith teulu Jeroboam y cafodd ARGLWYDD Dduw Israel ryw gymaint o ddaioni.

14. Fe gyfyd yr ARGLWYDD iddo'i hun frenin ar Israel a fydd yn difodi tylwyth Jeroboam y dydd hwn—yr awr hon, ond odid.

15. A bydd yr ARGLWYDD yn taro Israel nes y bydd yn siglo fel brwynen mewn llif, ac yn diwreiddio Israel o'r tir da hwn a roddodd i'w hynafiaid, a'u gwasgaru y tu hwnt i'r Ewffrates, am iddynt lunio'u delwau o Asera a chythruddo'r ARGLWYDD.

16. Bydd yn gwrthod Israel, o achos y pechod a wnaeth Jeroboam, a barodd i Israel bechu.”

17. Aeth gwraig Jeroboam yn ôl i Tirsa, ac fel yr oedd hi'n cyrraedd trothwy'r tŷ, bu farw'r llanc.

Darllenwch bennod gyflawn 1 Brenhinoedd 14