22. Gwnaeth Jwda ddrygioni yng ngolwg yr ARGLWYDD, a'i ddigio'n fwy â'u pechodau nag a wnaeth eu hynafiaid.
23. Buont hefyd yn codi uchelfeydd a cholofnau i Baal ac Asera ar bob bryn uchel a than bob pren gwyrddlas;
24. ac yr oedd puteinwyr y cysegr drwy'r wlad. Gwnaethant ffieidd-dra, yn hollol fel y cenhedloedd a ddisodlodd yr ARGLWYDD o flaen yr Israeliaid.
25. Ym mhumed flwyddyn y Brenin Rehoboam, daeth Sisac brenin yr Aifft i fyny yn erbyn Jerwsalem,
26. a dwyn holl drysorau tŷ'r ARGLWYDD a thŷ'r brenin, a dwyn hefyd yr holl darianau aur a wnaeth Solomon.
27. Yn eu lle gwnaeth y Brenin Rehoboam darianau pres, a'u rhoi yng ngofal swyddogion y gwarchodlu oedd yn gwylio porth tŷ'r brenin.
28. Bob tro yr âi'r brenin i dŷ'r ARGLWYDD, gwisgai'r gwarchodlu hwy ac yna'u dychwelyd i'r wardws.
29. Ac onid yw gweddill hanes Rehoboam, a'r cwbl a wnaeth, wedi ei ysgrifennu yn llyfr hanesion brenhinoedd Jwda?
30. Bu rhyfel rhwng Rehoboam a Jeroboam trwy gydol yr amser.
31. Pan fu farw Rehoboam, claddwyd ef gyda hwy yn Ninas Dafydd. Naama yr Ammones oedd enw ei fam, a'i fab Abeiam a ddaeth yn frenin yn ei le.