Hen Destament

Testament Newydd

1 Brenhinoedd 12:26-31 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

26. Meddyliodd Jeroboam, “Yn awr, efallai y dychwel y frenhiniaeth at linach Dafydd.

27. Os â'r bobl hyn i offrymu yn nhÅ·'r ARGLWYDD yn Jerwsalem, yna fe fydd calon y bobl hyn yn troi'n ôl at eu meistr, Rehoboam brenin Jwda; fe'm lladdant i a dychwelyd at Rehoboam brenin Jwda.”

28. Felly cymerodd y brenin gyngor a gwneud dau lo aur, a dweud wrth y bobl, “Y mae'n ormod i chwi fynd i fyny i Jerwsalem; dyma dy dduwiau, Israel, y rhai a ddaeth â chwi i fyny o'r Aifft.”

29. Gosodwyd un eilun i fyny ym Methel, a rhoi'r llall yn Dan.

30. Ond bu hyn yn achos pechu, oherwydd yr oedd y bobl yn mynd i addoli'r naill i Fethel a'r llall i Dan.

31. Wedi iddo godi uchelfeydd, urddodd offeiriaid o blith y bobl i gyd, heb iddynt fod yn Lefiaid.

Darllenwch bennod gyflawn 1 Brenhinoedd 12