Ond ni chadwodd yr hyn a orchmynnodd yr ARGLWYDD. Am hynny dywedodd yr ARGLWYDD wrth Solomon, “Gan mai dyma dy ddewis, ac nad wyt ti wedi cadw fy nghyfamod na'm deddfau a orchmynnais iti, yr wyf am rwygo'r deyrnas oddi wrthyt a'i rhoi i un o'th weision.