Penodau

  1. 1
  2. 2
  3. 3
  4. 4
  5. 5
  6. 6
  7. 7
  8. 8
  9. 9
  10. 10
  11. 11
  12. 12
  13. 13
  14. 14
  15. 15
  16. 16
  17. 17
  18. 18
  19. 19
  20. 20
  21. 21
  22. 22

Hen Destament

Testament Newydd

1 Brenhinoedd 1 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

Y Brenin Dafydd yn ei Henaint

1. Yr oedd y Brenin Dafydd yn hen, mewn gwth o oedran; ni chynhesai, er pentyrru dillad drosto.

2. A dywedodd ei weision wrtho, “Ceisier i'n harglwydd frenin forwyn ifanc i ofalu am y brenin, i'th ymgeleddu a gorwedd yn dy fynwes, fel y cynheso'r arglwydd frenin.”

3. Yna ceisiwyd geneth deg trwy holl wlad Israel, a chafwyd Abisag y Sunamees a'i dwyn at y brenin.

4. Yr oedd yn eneth brydferth iawn, a bu'n ymgeledd i'r brenin ac yn gofalu amdano; ond ni chafodd y brenin gyfathrach â hi.

Adoneia yn Hawlio'r Orsedd

5. Ymddyrchafodd Adoneia fab Haggith gan ddweud, “Yr wyf fi am fod yn frenin.” A darparodd iddo'i hun gerbyd a marchogion, a hanner cant o wŷr i redeg o'i flaen.

6. Nid oedd ei dad wedi gomedd dim iddo erioed na dweud, “Pam y gwnaethost fel hyn?”

7. Yr oedd yntau hefyd yn hynod deg ei bryd; a ganed ef ar ôl Absalom. Bu'n trafod gyda Joab fab Serfia, ac Abiathar yr offeiriad; a rhoesant eu cefnogaeth i Adoneia.

8. Ond nid oedd Sadoc yr offeiriad, Benaia fab Jehoiada, Nathan y proffwyd, Simei, Rei, na'r cedyrn oedd gan Ddafydd, o blaid Adoneia.

9. Yna lladdodd Adoneia ddefaid a gwartheg a phasgedigion wrth faen Soheleth sydd gerllaw En-rogel; a gwahoddodd i'w wledd ei holl frodyr, meibion y brenin, a holl wŷr Jwda a oedd yn weision i'r brenin.

10. Ond ni wahoddodd Nathan y proffwyd, na Benaia a'r cedyrn, na'i frawd Solomon.

Gwneud Solomon yn Frenin

11. Dywedodd Nathan wrth Bathseba, mam Solomon, “Oni chlywaist ti fod Adoneia fab Haggith yn frenin, heb i'n harglwydd Dafydd wybod?

12. Yn awr, felly, tyrd, rhoddaf iti gyngor fel y gwaredi dy fywyd dy hun a bywyd dy fab Solomon.

13. Dos i mewn ar unwaith at y Brenin Dafydd a dywed wrtho, ‘Oni thyngaist, f'arglwydd frenin, wrth dy lawforwyn a dweud, “Solomon dy fab a deyrnasa ar fy ôl; ef sydd i eistedd ar fy ngorsedd”? Pam gan hynny y mae Adoneia yn frenin?’

14. Tra byddi yno'n siarad â'r brenin, dof finnau i mewn i gadarnhau dy eiriau.”

15. Aeth Bathseba i mewn at y brenin i'r siambr. Yr oedd y brenin yn hen iawn, ac Abisag y Sunamees yn gofalu amdano.

16. Ymostyngodd Bathseba ac ymgrymu i'r brenin, a dywedodd y brenin, “Beth sy'n bod?”

17. Atebodd hithau, “F'arglwydd, ti dy hun a dyngodd trwy'r ARGLWYDD dy Dduw wrth dy lawforwyn: ‘Solomon dy fab a deyrnasa ar fy ôl; ef sydd i eistedd ar fy ngorsedd.’

18. Ond yn awr, y mae Adoneia'n frenin, a thithau, f'arglwydd frenin, heb wybod.

19. Y mae wedi lladd llawer o fustych, pasgedigion a defaid, a gwahodd holl feibion y brenin, Abiathar yr offeiriad a Joab, tywysog y llu; ond ni wahoddodd dy was Solomon.

20. Yn awr y mae llygaid holl Israel arnat ti, f'arglwydd frenin, fel y mynegi iddynt pwy sydd i eistedd ar orsedd f'arglwydd frenin ar ei ôl.

21. Onid e, pan fydd f'arglwydd frenin farw, cyfrifir fi a'm mab yn droseddwyr.”

22. Tra oedd hi'n siarad â'r brenin, cyrhaeddodd y proffwyd Nathan,

23. a hysbyswyd y brenin: “Dyma Nathan y proffwyd.” Daeth yntau gerbron y brenin, ac ymgrymu i'r brenin â'i wyneb i'r llawr.

24. A dywedodd Nathan, “F'arglwydd frenin, a ddywedaist ti mai Adoneia sydd i deyrnasu ar dy ôl, ac i eistedd ar dy orsedd?

25. Oblegid aeth i lawr heddiw, a lladdodd lawer o fustych, pasgedigion a defaid, a gwahodd i'w wledd holl dylwyth y brenin, tywysog y llu ac Abiathar yr offeiriad. Y maent yn bwyta ac yn yfed yn ei ŵydd, ac yn ei gyfarch, ‘Byw fyddo'r brenin Adoneia!’

26. Ond nid yw wedi fy ngwahodd i, sy'n was i ti, na Sadoc yr offeiriad, na Benaia fab Jehoiada, na Solomon dy was.

27. A wnaed y peth hwn trwy f'arglwydd frenin, heb i ti hysbysu dy was pwy sydd i eistedd ar orsedd f'arglwydd frenin ar ei ôl?”

28. Atebodd y Brenin Dafydd, “Galwch Bathseba.” Daeth hithau i ŵydd y brenin a sefyll o'i flaen.

29. Yna tyngodd y brenin a dweud, “Cyn wired â bod yr ARGLWYDD yn fyw, a waredodd fy mywyd o bob cyfyngder,

30. yn ddiau fel y tyngais i ti trwy'r ARGLWYDD, Duw Israel, mai Solomon dy fab a deyrnasai ar fy ôl, ac eistedd ar fy ngorsedd yn fy lle, felly yn ddiau y gwnaf y dydd hwn.”

31. Ymostyngodd Bathseba â'i hwyneb i'r llawr ac ymgrymu i'r brenin, a dweud, “Boed i'm harglwydd, y Brenin Dafydd, fyw byth!”

32. Dywedodd y Brenin Dafydd, “Galwch Sadoc yr offeiriad, Nathan y proffwyd a Benaia fab Jehoiada.”

33. Daethant i ŵydd y brenin, a dywedodd y brenin wrthynt, “Cymerwch weision eich arglwydd gyda chwi, a pheri i'm mab Solomon farchogaeth ar fy mules, a dewch ag ef i lawr i Gihon.

34. Yno boed i Sadoc yr offeiriad a Nathan y proffwyd ei eneinio ef yn frenin ar Israel; seiniwch yr utgorn a dywedwch, ‘Byw fyddo'r Brenin Solomon!’

35. Dewch chwithau i fyny ar ei ôl, a boed iddo eistedd ar fy ngorsedd; ef sydd i deyrnasu yn fy lle, a gorchmynnaf iddo fod yn dywysog ar Israel a Jwda.”

36. Yna atebodd Benaia fab Jehoiada y brenin, a dweud, “Amen! Felly hefyd y dywedo'r ARGLWYDD, Duw fy arglwydd frenin.

37. Fel y bu'r ARGLWYDD gyda'm harglwydd frenin, felly bydded gyda Solomon; a gwnaed ei orsedd yn uwch na gorsedd f'arglwydd, y Brenin Dafydd.”

38. Aeth Sadoc yr offeiriad a Nathan y proffwyd a Benaia fab Jehoiada, a'r Cerethiaid a'r Pelethiaid, i lawr, gan beri i Solomon farchogaeth ar fules y Brenin Dafydd, a dod ag ef i Gihon.

39. Cymerodd Sadoc yr offeiriad y corn olew o'r babell, ac eneiniodd Solomon; yna seiniwyd yr utgorn, a dywedodd yr holl bobl, “Byw fyddo'r brenin Solomon!”

40. Aeth yr holl bobl i fyny ar ei ôl dan ganu ffliwtiau a llawenhau'n orfoleddus, nes hollti'r ddaear â'u sŵn.

41. Tra oeddent yn gorffen bwyta, clywodd Adoneia hyn, a'r holl wahoddedigion oedd gydag ef. A phan glywodd Joab sain yr utgorn dywedodd, “Pam y mae sŵn cynnwrf yn y ddinas?”

42. Ar y gair, dyma Jonathan fab Abiathar yr offeiriad yn cyrraedd. Dywedodd Adoneia, “Tyrd i mewn; gŵr teilwng wyt ti, a newydd da sydd gennyt.”

43. Ond atebodd Jonathan a dweud wrth Adoneia, “Nage'n wir! Y mae ein harglwydd, y Brenin Dafydd, wedi gwneud Solomon yn frenin,

44. ac wedi anfon gydag ef Sadoc yr offeiriad, Nathan y proffwyd, Benaia fab Jehoiada, y Cerethiaid a'r Pelethiaid, a pheri iddo farchogaeth ar fules y brenin.

45. Ac eneiniodd Sadoc yr offeiriad a Nathan y proffwyd ef yn frenin yn Gihon, a daethant i fyny oddi yno dan lawenhau, a chynhyrfodd y ddinas. Dyna'r twrf a glywsoch.

46. A mwy na hynny, y mae Solomon yn eistedd ar orsedd y frenhiniaeth;

47. a daeth gweision y brenin ymlaen i gyfarch ein harglwydd, y Brenin Dafydd, a dweud, ‘Gwneled dy Dduw enw Solomon yn well na'th enw di, a dyrchafed ei orsedd ef yn uwch na'th orsedd di!’ Ac ymgrymodd y brenin ar ei wely.

48. Fel hyn y dywedodd y brenin: ‘Bendigedig fyddo ARGLWYDD Dduw Israel, a roes heddiw un i eistedd ar fy ngorsedd, a'm llygaid innau'n gweld hynny.’ ”

49. Cododd holl wahoddedigion Adoneia mewn dychryn a mynd bob un i'w ffordd.

50. A chan fod Adoneia'n ofni rhag Solomon, cododd ac aeth i ymaflyd yng nghyrn yr allor.

51. Mynegwyd i Solomon, “Edrych, y mae Adoneia'n ofni'r Brenin Solomon; ymaflodd yng nghyrn yr allor a dweud, ‘Tynged y Brenin Solomon wrthyf yn awr na fydd iddo ladd ei was â'r cledd.’ ”

52. A dywedodd Solomon, “Os bydd yn ŵr teilwng, ni syrth un blewyn o'i wallt i lawr; ond os ceir drygioni ynddo, fe fydd farw.”

53. Ac anfonodd y Brenin Solomon i'w gyrchu ef i lawr oddi wrth yr allor. Daeth yntau ac ymgrymu i'r Brenin Solomon; a dywedodd Solomon wrtho, “Dos i'th dŷ.”