Hen Destament

Testament Newydd

Rhufeiniaid 9:14-25 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

14. Beth, ynteu, a atebwn i hyn? Bod Duw yn coleddu anghyfiawnder? Ddim ar unrhyw gyfrif!

15. Y mae'n dweud wrth Moses:“Trugarhaf wrth bwy bynnag y trugarhaf wrtho,a thosturiaf wrth bwy bynnag y tosturiaf wrtho.”

16. Felly, nid mater o ewyllys neu o ymdrech ddynol ydyw, ond o drugaredd Duw.

17. Fel y dywedir wrth Pharo yn yr Ysgrythur, “Fy union amcan wrth dy godi di oedd dangos fy ngallu ynot ti, a chyhoeddi fy enw trwy'r holl ddaear.”

18. Gwelir, felly, fod Duw yn trugarhau wrth unrhyw un a fyn, a'i fod yn gwneud unrhyw un a fyn yn wargaled.

19. Ond fe ddywedi wrthyf, “Os felly, pam y mae Duw yn dal i feio pobl? Pwy a all wrthsefyll ei ewyllys?”

20. Ie, ond pwy wyt ti, feidrolyn, i ateb Duw yn ôl? A yw hi'n debyg y dywed yr hyn a luniwyd wrth yr un a'i lluniodd, “Pam y lluniaist fi fel hyn?”

21. Oni all y crochenydd lunio beth bynnag a fynno o'r clai? Onid oes hawl ganddo i wneud, o'r un telpyn, un llestr i gael parch a'r llall amarch?

22. Ond beth os yw Duw, yn ei awydd i ddangos ei ddigofaint ac i amlygu ei nerth, wedi dioddef â hir amynedd y llestri hynny sy'n wrthrychau digofaint ac yn barod i'w dinistrio?

23. Ei amcan yn hyn fyddai dwyn i'r golau y cyfoeth o ogoniant oedd ganddo ar gyfer y llestri sy'n wrthrychau trugaredd, y rheini yr oedd ef wedi eu paratoi ymlaen llaw i ogoniant.

24. A ni yw'r rhain, ni sydd wedi ein galw, nid yn unig o blith yr Iddewon, ond hefyd o blith y Cenhedloedd.

25. Fel y mae'n dweud yn llyfr Hosea hefyd:“Galwaf yn bobl i mi rai nad ydynt yn bobl i mi,a galwaf yn anwylyd un nad yw'n anwylyd;

Darllenwch bennod gyflawn Rhufeiniaid 9