Hen Destament

Testament Newydd

Rhufeiniaid 7:6-22 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

6. Ond yn awr, gan ein bod wedi marw i'r Gyfraith oedd yn ein dal yn gaeth, fe'n rhyddhawyd o'i rhwymau, i wasanaethu ein Meistr yn ffordd newydd yr Ysbryd, ac nid yn hen ffordd cyfraith ysgrifenedig.

7. Beth, ynteu, sydd i'w ddweud? Mai pechod yw'r Gyfraith? Ddim ar unrhyw gyfrif! I'r gwrthwyneb, ni buaswn wedi gwybod beth yw pechod ond trwy'r Gyfraith, ac ni buaswn yn gwybod beth yw chwant, oni bai fod y Gyfraith yn dweud, “Na chwennych.”

8. A thrwy'r gorchymyn hwn cafodd pechod ei gyfle, a chyffroi ynof bob math o chwantau drwg.

9. Oherwydd, heb gyfraith, peth marw yw pechod. Yr oeddwn i'n fyw, un adeg, heb gyfraith;

10. yna daeth y gorchymyn, a daeth pechod yn fyw, a bûm innau farw. Y canlyniad i mi oedd i'r union orchymyn a fwriadwyd yn gyfrwng bywyd droi yn gyfrwng marwolaeth.

11. Oherwydd trwy'r gorchymyn cafodd pechod ei gyfle, twyllodd fi, a thrwy'r gorchymyn fe'm lladdodd.

12. Gan hynny, y mae'r Gyfraith yn sanctaidd, a'r gorchymyn yn sanctaidd a chyfiawn a da.

13. Os felly, a drodd y peth da hwn yn farwolaeth i mi? Naddo, ddim o gwbl! Yn hytrach, y mae pechod yn defnyddio'r peth da hwn, ac yn dwyn marwolaeth i mi, er mwyn i wir natur pechod ddod i'r golwg. Mewn gair, swydd y gorchymyn yw dwyn pechod i anterth ei bechadurusrwydd.

14. Gwyddom, yn wir, fod y Gyfraith yn perthyn i fyd yr Ysbryd. Ond perthyn i fyd y cnawd yr wyf fi, un sydd wedi ei werthu yn gaethwas i bechod.

15. Ni allaf ddeall fy ngweithredoedd, oherwydd yr wyf yn gwneud, nid y peth yr wyf yn ei ewyllysio ond y peth yr wyf yn ei gasáu.

16. Ac os wyf yn gwneud yr union beth sy'n groes i'm hewyllys, yna yr wyf yn cytuno â'r Gyfraith, ac yn cydnabod ei bod yn dda.

17. Ond y gwir yw, nid myfi sy'n gweithredu mwyach, ond pechod, sy'n cartrefu ynof fi,

18. oherwydd mi wn nad oes dim da yn cartrefu ynof fi, hynny yw, yn fy nghnawd. Y mae'r ewyllys i wneud daioni gennyf; y peth nad yw gennyf yw'r gweithredu.

19. Yr wyf yn cyflawni, nid y daioni yr wyf yn ei ewyllysio ond yr union ddrygioni sy'n groes i'm hewyllys.

20. Ond os wyf yn gwneud yr union beth sy'n groes i'm hewyllys, yna nid myfi sy'n gweithredu mwyach, ond y pechod sy'n cartrefu ynof fi.

21. Yr wyf yn cael y ddeddf hon ar waith: pan wyf yn ewyllysio gwneud daioni, drygioni sy'n ei gynnig ei hun imi.

22. Y mae'r gwir ddyn sydd ynof yn ymhyfrydu yng Nghyfraith Duw.

Darllenwch bennod gyflawn Rhufeiniaid 7