Hen Destament

Testament Newydd

Rhufeiniaid 7:1-8 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

1. A ydych heb wybod, gyfeillion,—ac yr wyf yn siarad â rhai sy'n gwybod y Gyfraith—fod gan gyfraith awdurdod dros rywun cyhyd ag y bydd yn fyw?

2. Er enghraifft, y mae gwraig briod wedi ei rhwymo gan y gyfraith wrth ei gŵr tra bydd ef yn fyw. Ond os bydd y gŵr farw, y mae hi wedi ei rhyddhau o'i rhwymau cyfreithiol wrtho.

3. Felly, os bydd iddi, yn ystod bywyd ei gŵr, ddod yn eiddo i ddyn arall, godinebwraig fydd yr enw arni. Ond os bydd y gŵr farw, y mae hi'n rhydd o'r gyfraith hon, ac ni bydd yn odinebwraig wrth ddod yn eiddo i ddyn arall.

4. Ac felly, fy nghyfeillion, yr ydych chwi hefyd, trwy gorff Crist, wedi eich gwneud yn farw mewn perthynas â'r Gyfraith, er mwyn i chwi ddod yn eiddo i rywun arall, sef yr un a gyfodwyd oddi wrth y meirw, er mwyn i ni ddwyn ffrwyth i Dduw.

5. Pan oeddem yn byw ym myd y cnawd, yr oedd y nwydau pechadurus, a ysgogir gan y Gyfraith, ar waith yn ein cyneddfau corfforol, yn peri i ni ddwyn ffrwyth i farwolaeth.

6. Ond yn awr, gan ein bod wedi marw i'r Gyfraith oedd yn ein dal yn gaeth, fe'n rhyddhawyd o'i rhwymau, i wasanaethu ein Meistr yn ffordd newydd yr Ysbryd, ac nid yn hen ffordd cyfraith ysgrifenedig.

7. Beth, ynteu, sydd i'w ddweud? Mai pechod yw'r Gyfraith? Ddim ar unrhyw gyfrif! I'r gwrthwyneb, ni buaswn wedi gwybod beth yw pechod ond trwy'r Gyfraith, ac ni buaswn yn gwybod beth yw chwant, oni bai fod y Gyfraith yn dweud, “Na chwennych.”

8. A thrwy'r gorchymyn hwn cafodd pechod ei gyfle, a chyffroi ynof bob math o chwantau drwg.

Darllenwch bennod gyflawn Rhufeiniaid 7