Hen Destament

Testament Newydd

Rhufeiniaid 5:1-8 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

1. Am hynny, oherwydd ein bod wedi ein cyfiawnhau trwy ffydd, y mae gennym heddwch â Duw trwy ein Harglwydd Iesu Grist.

2. Trwyddo ef, yn wir, cawsom ffordd, trwy ffydd, i ddod i'r gras hwn yr ydym yn sefyll ynddo. Yr ydym hefyd yn gorfoleddu yn y gobaith y cawn gyfranogi yng ngogoniant Duw.

3. Heblaw hynny, yr ydym hyd yn oed yn gorfoleddu yn ein gorthrymderau, oherwydd fe wyddom mai o orthrymder y daw'r gallu i ymddál,

4. ac o'r gallu i ymddál y daw rhuddin cymeriad, ac o gymeriad y daw gobaith.

5. A dyma obaith na chawn ein siomi ganddo, oherwydd y mae cariad Duw wedi ei dywallt yn ein calonnau trwy'r Ysbryd Glân y mae ef wedi ei roi i ni.

6. Oherwydd y mae Crist eisoes, yn yr amser priodol, a ninnau'n ddiymadferth, wedi marw dros yr annuwiol.

7. Go brin y bydd neb yn marw dros un cyfiawn. Efallai y ceir rhywun yn ddigon dewr i farw dros un da.

8. Ond prawf Duw o'r cariad sydd ganddo tuag atom ni yw bod Crist wedi marw drosom pan oeddem yn dal yn bechaduriaid.

Darllenwch bennod gyflawn Rhufeiniaid 5