Hen Destament

Testament Newydd

Rhufeiniaid 4:9-14 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

9. Y gwynfyd hwn, ai braint yn dilyn ar enwaediad yw? Oni cheir ef heb enwaediad hefyd? Ceir yn wir, oherwydd ein hymadrodd yw, “cyfrifwyd ei ffydd i Abraham yn gyfiawnder”.

10. Ond sut y bu'r cyfrif? Ai ar ôl enwaedu arno, ynteu cyn hynny? Cyn yr enwaedu, nid ar ei ôl.

11. Ac wedyn derbyniodd arwydd yr enwaediad, yn sêl o'r cyfiawnder oedd eisoes yn eiddo iddo trwy ffydd, heb enwaediad. O achos hyn, y mae yn dad i bawb sy'n meddu ar ffydd, heb enwaediad, a chyfiawnder felly yn cael ei gyfrif iddynt.

12. Y mae yn dad hefyd i'r rhai enwaededig sydd nid yn unig yn enwaededig ond hefyd yn dilyn camre'r ffydd oedd yn eiddo i Abraham ein tad cyn enwaedu arno.

13. Y mae'r addewid i Abraham, neu i'w ddisgynyddion, y byddai yn etifedd y byd, wedi ei rhoi, nid trwy'r Gyfraith ond trwy'r cyfiawnder a geir trwy ffydd.

14. Oherwydd, os y rhai sy'n byw yn ôl y Gyfraith yw'r etifeddion, yna gwagedd yw ffydd, a diddim yw'r addewid.

Darllenwch bennod gyflawn Rhufeiniaid 4