Hen Destament

Testament Newydd

Rhufeiniaid 2:1-11 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

1. Yn wyneb hyn, yr wyt ti sy'n eistedd mewn barn, pwy bynnag wyt, yn ddiesgus. Oherwydd, wrth farnu rhywun arall, yr wyt yn dy gollfarnu dy hun, gan dy fod ti, sy'n barnu, yn cyflawni'r un troseddau.

2. Fe wyddom fod barn Duw ar y sawl sy'n cyflawni'r fath droseddau yn gwbl gywir.

3. Ond a wyt ti, yr un sy'n eistedd mewn barn ar y rhai sy'n cyflawni'r fath droseddau, ac yn eu gwneud dy hun, a wyt ti'n tybied y cei di ddianc rhag barn Duw?

4. Neu, ai dibris gennyt yw cyfoeth ei diriondeb a'i ymatal a'i amynedd? A fynni di beidio â gweld mai amcan tiriondeb Duw yw dy ddwyn i edifeirwch?

5. Wrth ddilyn ystyfnigrwydd dy galon ddiedifar, yr wyt yn casglu i ti dy hunan stôr o ddigofaint yn Nydd digofaint, Dydd datguddio barn gyfiawn Duw.

6. Bydd ef yn talu i bawb yn ôl eu gweithredoedd:

7. bywyd tragwyddol i'r rhai sy'n dal ati i wneud daioni, gan geisio gogoniant, anrhydedd ac anfarwoldeb;

8. ond digofaint a dicter i'r rheini a ysgogir gan gymhellion hunanol i fod yn ufudd, nid i'r gwirionedd, ond i anghyfiawnder.

9. Gorthrymder ac ing fydd i bob bod dynol sy'n gwneud drygioni, i'r Iddewon yn gyntaf a hefyd i'r Groegiaid;

10. ond gogoniant ac anrhydedd a thangnefedd fydd i bob un sy'n gwneud daioni, i'r Iddewon yn gyntaf a hefyd i'r Groegiaid.

11. Nid oes ffafriaeth gerbron Duw.

Darllenwch bennod gyflawn Rhufeiniaid 2