Hen Destament

Testament Newydd

Rhufeiniaid 12:12-16 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

12. Llawenhewch mewn gobaith. Safwch yn gadarn dan orthrymder. Daliwch ati i weddïo.

13. Cyfrannwch at reidiau'r saint, a byddwch barod eich lletygarwch.

14. Bendithiwch y rhai sy'n eich erlid, bendithiwch heb felltithio byth.

15. Llawenhewch gyda'r rhai sy'n llawenhau, ac wylwch gyda'r rhai sy'n wylo.

16. Byddwch yn gytûn ymhlith eich gilydd. Gochelwch feddyliau mawreddog; yn hytrach, rhodiwch gyda'r distadl. Peidiwch â'ch cyfrif eich hunain yn ddoeth.

Darllenwch bennod gyflawn Rhufeiniaid 12